DULL
Mewn powlen, cymysgu'r briwsion bara, margarîn, y lard llysiau, winwns a'r afu â'i gilydd. Ychwanegu'r perlysiau a'r halen a'r pupur.
Cymysgu'r cyfan â'r dwylo.
Glanhau y tu mewn i'r twrci a stwffio canol y twrci â'r stwffin ac yna gosod y crystyn ar y pen i gau'r cynhwysion i gyd y tu fewn i'r twrci.
Gosod y twrci ar ei gefn a'i roi yn y ffwrn am tua 5 awr ar wres o 400F nes bod y coesau'n dod i ffwrdd oddi ar y corff yn hawdd.
Rysait gan Mary Davies
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley