dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TORTE SIOCLED GWYN GYDA COULIS MAFON

TORTE SIOCLED GWYN GYDA COULIS MAFON

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 4

CYNHWYSION

Bydd angen tun cacen â gwaelod rhydd 12cm neu 4 o duniau bach unigol.

Gwaelod y torte:
150g o fisgedi amaretti, wedi eu malu'n fân mewn prosesydd bwyd
50 g o fisgedi digestives, wedi eu malu'n fân mewn prosesydd bwyd
50g o fenyn, wedi toddi mewn sosban

Y Llenwad:
175g o siocled gwyn
250ml o hufen dwbl - ar dymheredd ystafell
4 llwy fwrdd o laeth - ar dymheredd ystafell

Y Coulis:
150g o fafon
Siwgr eisin
12 o fafon cyfan
Hufen Dwbl
Sbrigyn o fintys ffres
DULL
Gwaelod y Torte:
Ychwanegu'r bisgedi at y menyn a chymysgu'r cyfan yn dda. Iro'r tun a gwasgu'r bisgedi i'w waelod gan ddefnyddio llwy neu ddwylo. Rhoi yn yr rhewgell i oeri.

Y Llenwad:
Torri'r siocled gwyn yn ddarnau a toddi mewn powlen dros sosban o ddwr sy'n mudferwi. Wedi i'r siocled doddi, tynnu'r bowlen oddi ar y sosban a'i adael i oeri am ychydig.

Rhoi'r hufen a'r llaeth mewn prosesydd/powlen a chwisgo'r gymysgedd nes ei fod yn gadael ôl rhuban wrth dynnu'r chwisg drwyddo. Bydd hyn yn rhoi torte ysgafnach i chi. Cymysgwch yn fwy ac fe gewch torte mwy trwchus.

Gyda llwy fetel fawr, ychwanegu llwy fwrdd o'r gymysgedd hufen i'r siocled gwyn a'i droi.

Yna, tywallt y siocled gwyn i'r gymysgedd hufen a'i droi'n dda.

Tynnu'r tun o'r rhewgell a thywallt y llenwad ar ben y bisgedi. Gorchuddio â chling ffilm a'i roi yn y rhewgell am 4 awr neu dros nos.

Y Coulis:
Rhoi'r mafon mewn prosesydd bwyd a'i chwisgo. Ychwanegu ychydig o siwgr eisin. Os yn rhy felus, ychwanegu ychydig o sudd lemwn.

Gweini:
Torri'r torte a'i osod ar blât. Mafon ffres wrth ei ymyl a'r coulis ar un hanner o'r plât. Tywallt ychydig o hufen dwbl ar yr hanner arall. Ysgeintio siwgr eisin dros y cyfan.


Rysait Elin Williams


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY