DULL
Rhoi'r blawd a'r sbeisys mewn bowlen ac ychwanegu'r dwr bob yn dipyn gan ddefnyddio llwy bren neu chwisg i greu cytew (batter) melyn. Ychwanegu'r halen a'i roi i'r ochr.
Gan ddefnyddio pliciwr tatws, torri'r ciwcymbr yn stribedi.
Cymysgu'r hufen sur â'r coriander a sudd 1 lemwn. Ychwanegu olew olewydd, halen a phupur a'i roi i'r ochr.
Torri'r llysiau i stribedi tenau (tua maint matsys hir). Rhoi olew mewn ffreipan a chynhesu tan yn dwym iawn.
Cymysgu'r llysiau, ychydig ar y tro, gydag ychydig o'r cytew. Ychwanegu pinsied o hadau mwstard. Rhoi llwyeidiau bwrdd o'r gymysgedd yn yr olew poeth. Gwneud yr un peth gyda'r holl gymysgedd bydd angen ffrio'r bhajis ychydig ar y tro.
Gwasgu'r bhajis i lawr gan ddefnyddio cefn fforc gan sicrhau nad ydynt yn cyffwrdd ei gilydd. Ffrio am tua munud bob ochr tan yn grisp yna eu sychu ar bapur cegin.
Rhoi 2 neu 3 bhaji ar bob plât gyda dail roced a stribedi o giwcymbr.
Gweini gyda'r hufen sur a lemwn.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley