DULL
Cynhesu'r llaeth mewn sosban. Toddi'r menyn mewn sosban arall. Ychwanegu'r blawd at y menyn i wneud roux. Coginio'r cyfan am ychydig funudau.
Ychwanegu'r llaeth poeth ond nid berw at y roux a'i gymysgu'n dda i greu saws bechamel trwchus a llyfn. Gadael y cyfan i fudferwi am ychydig funudau. Tynnu oddi ar y gwres a'i adael i oeri. Ychwanegu'r perlysiau a'r halen a phupur.
Cymryd llwyed o'r gymysgedd a rholio i beli yna eu trochi yn yr wy, yna'r briwsion bara nes eu bod wedi'u gorchuddio'n dda.
Ffrio'r peli mewn olew poeth am tua 4-5 munud nes eu bod wedi eu brownio ac yn grisp.
Gweini'r bolinhas yn syth.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley