dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
NASI GORENG

NASI GORENG

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 6

CYNHWYSION

2 winwnsyn, wedi torri'n fân
2 bupur coch, wedi torri'n fân
2 clôf o arlleg, wedi eu malu
2-3 llwy fwrdd o bowdr cyrri, yn ddibynol ar eich tast.
Chilli coch
100g o dwrci
200g o gorgimychiaid
2 gwpan o reis, heb ei goginio
Olew olewydd
2 wy
Menyn
Coriander ffres i weini

I weini mewn powlenni bychain ar yr ochr
Chillis coch
Saws Nam Pla
Chillis sych
Siwgr
DULL
Ffrio'r winwns, garlleg a'r pupur coch mewn olew olewydd nes yn feddal.

Ychwanegu'r powdr cyrri a chymysgu'n dda. Ychwanegu'r twrci.

Ychwanegu'r corgimychiaid a lleihau'r tymheredd, cymysgu'n gyson. Os yw'r gymysgedd yn ymddangos yn rhy sych, ychwanegu mwy o olew olewydd.

Coginio'r reis mewn dwr berw.

Pan wedi coginio, ychwanegu'r reis at y twrci a'r gymysgedd corgimychiaid.

Ffrio'r wyau mewn ffreipan, gan ychwangu ychydig o fenyn.

I weini, rhoi llwyed ohono ar y plat a gosod yr wy wedi'i ffrio ar y top ⠑chydig o goriander.

Gweini â'r chillis coch, saws Nam Pla, chillis sych a sigwr mewn dysglau bychain ar yr ochr.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY