dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PARSELI LLUGAERON A BRIE

PARSELI LLUGAERON A BRIE

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 6

CYNHWYSION

1 pecyn o grwst ffilo, wedi torri'n 24 sgwâr 6 modfedd
1 carton o lugaeron
12oz o gaws Brie, gyda'r croen wedi'i dynnu
Menyn
DULL
Brwsio deuddeg o'r sgwariau ffilo gyda menyn ac yna rhoi'r 12 arall ar eu pen.

Rhoi llwy de o lugaeron yng nghanol y sgwariau.

Rhoi darn o Brie ar ben y llugaeron.

Plygu'r crwst ffilo i gau'r cynhwysion fewn ac i greu parseli bychain.

Coginio'r parseli am tua12 munud nes eu bod wedi brownio ac yn boeth.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY