DULL
Cynhesu'r ffwrn i 180°C/350°F/Nwy 4. Leinio tun coginio gyda phapur gwrthsaim. Tynnwch gylch o 20cm /8 modfedd ar y papur.
Mewn powlen lân, chwisgo'r gwynwy gyda'r halen a hanner y siwgr caster er mwyn ffurfio pigau meddal.
Parhau i guro tra'n ychwanegu gweddill y siwgr nes ei fod yn stiff ac yn sgleinio.
Ychwanegu'r blawd corn, hufen tartar, finegr gwin gwyn a'r rhin fanila a'u troi'n ofalus gyda llwy fetel.
Rhoi'r gymysgedd o fewn y cylch ar y papur gwrthsaim.
Bydd angen lefelu top y pavlova a llyfnhau'r ochrau.
Rhoi'r gymysgedd yn y ffwrn a lleihau'r tymheredd yn syth i 150°C/300°F/Nwy 2 a choginio am awr a chwarter.
Diffodd y ffwrn gan adael y drws yn gil-agored a'i adael i oeri.
Trosglwyddo'r pavlova i blât, gan wasgu'r meringue i lawr ychydig.
Gosod yr hufen ar ben y merinque a'i addurno gyda ffrwythau o'ch dewis.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley