dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
SWSHI EOG WEDI'I FYGU A CHWSCWS

SWSHI EOG WEDI'I FYGU A CHWSCWS

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 6

CYNHWYSION

*Bydd angen mat swshi bambw

½ ciwcymbr, torri'n ddarnau 5mm o drwch ac yna'n fatonau o'r un trwch
225g eog wedi'i fygu
125g o gwscws
1 lemwn, croen a llwyfwrdd o'r sudd
130ml o stoc cyw iâr/llysiau/pysgod
Pinsied o halen
1 bwnsied o goriander ffres
3 haenen o wymon nori, wedi tostio'n barod
Sinsir, wedi piclo a'i dorri'n stribedi

I weini ar yr ochr:
Saws wasabi
Sinsir, wedi piclo a'i dorri'n stribedi
DULL
Paratoi y llenwad drwy lapio haenau o'r eog o amgylch y ciwcymbr. Rhoi yn yr oergell nes bod eu hangen.

Coginio'r cwscws - rhoi croen a sudd y lemwn, stoc a phinsied o halen mewn sosban gyda chaead ar ei dop. Dod a'r cyfan i'r berw ac yna ychwanegu'r cwscws a'i gymysgu. Wedi'r gymysgedd ddechrau mudferwi, rhoi'r caead ar y sosban, troi'r gwres i ffwrdd a gadael y cwscws i goginio yn ei wres ei hun. Dylai'r cwscws goginio mewn tua pedwar munud.

Ychwanegu coriander ffres at y cwscws.

Gosod y mat bambw ar y bwrdd ac yna rhoi haenen o wymon nori gyda'r ochr sgleiniog ar ei ben i lawr. Rhoi clwt golchi llestri tamp dros y nori ac aros am ychydig funudau fel bod y nori'n meddalu ychydig.

Rhoi haenen denau o'r cwscws ar y gwymon gan adael bwlch o tua 3-4cm o dop y gwymon – mae dwylo gwlyb yn gallu helpu'r cam yma.

Gosod dau stribed o'r ciwcymbr sydd eisoes wedi eu lapio mewn eog, ar draws canol y cwscws.

Taenu ychydig o sinsir ar y top ac yna gwlychu'r darn clir o'r gwymon a rholio'r cyfan gan ddefnyddio'r mat.

Y darn anoddaf yw sicrhau bod y cyfan yn cael ei rolio'n dynn i arbed y swshi rhag agor tra'n ei dorri!

Rholio'r swshi yn dynn mewn cling ffilm a'i roi yn yr oergell am ychydig. Tynnu o'r oergell a'i dorri'n sleisys trwchus.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY