DULL
Torri'r datys, cnau ffrengig a'r pecans yn fân a'u rhoi mewn powlen fawr.
Cyfuno'r datys a'r cnau gyda'r blawd coconyt, hadau sesame a'r siwgr brown meddal. Cymysgu'n dda.
Ychwanegu'r piwrî. Gan ddefnyddio fforc, gweithio'r piwrî i fewn i'r gymysgedd nes creu pâst.
Rhoi un llwy de o'r gymysgedd yng nghanol darn o'r papur wonton
Gwlychu ochrau'r papur gydag ychydig iawn o ddwr. Pinsio'r ochrau er mwyn creu parseli.
Cynhesu olew mewn wok a ffrio'r wontons nes eu bod wedi brownio ychydig.
Rhoi'r wontons ar bapur cegin i gael gwared o'r olew.
I weini, taenu ychydig o siwgr eisin dros y wontons.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley