dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
(ITXASAPUA TXANGURRO SALTSAN) - MAEGLI (MONKFISH) MEWN SAWS CRANC A BRANDI

(ITXASAPUA TXANGURRO SALTSAN) - MAEGLI (MONKFISH) MEWN SAWS CRANC A BRANDI

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

8 ffiled o faelgi
8 llwy fwrdd o olew yr olewydd
Blawd
Pinsied o halen - i ychwanegu at y blawd

Y Saws
4 owns o gig cranc - wedi'i falu
4 owns o gorgimychiaid - heb eu cregyn
4 owns o esgyrn pysgod gwyn
1 llwy fwrdd o flawd
1 gwydraid o Cognac
1 cwpan o biwrî tomato
½ cwpan o win gwyn
1 winwnsyn
1 moron
1 cenhinen
Pinsied o baprica
Pinsied o halen
4 cwpan o stoc pysgod
DULL
Rhoi'r darnau o faelgi yn y blawd a'u gorchuddio.
Rhoi yr olew mewn padell ffrio dros wres uchel ac aros iddo fygu ychydig. Ychwanegu y darnau o faelgi (ar ôl eu gosod yn y blawd) fesul pedwar a'u coginio nes eu bod yn brownio ychydig.
Gosod y darnau (heb yr olew) mewn pot cynnes sy'n addas i'r popty.

Y Saws
Mewn padell ffrio, meddalu'r winwns, cennin a'r moron. Ychwanegu'r corgimychiaid a'r cig cranc a'u coginio am tua 2 funud. Ychwanegu'r esgyrn dipyn ar y tro.
Ychwanegu y blawd a'u ffrio am ychydig. Ychwanegu'r cognac a'u fflamio. Ychwanegu'r piwrî tomato a'r gwin gwyn ac yna y stoc pysgod a'u berwi am rhyw hanner awr. Rhoi y gymysgedd trwy ridyll a'i gadw'n dwym mewn ‘bain Marie'.

Gorchuddio y pysgod gyda'r saws cyn gosod y pot yn y popty am rhyw 10 munud.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY