DULL
Glanhau'r sgwid yn dda cyn tynnu'r adennydd' o'r ochor. Tynnu'r sachau inc du allan yn ofalus, heb eu torri, a'u rhoi i un ochr . Torri'r coesau yn ddarnau tua 2cm yr un.
Ffrio un winwnsyn gyda un darn o arlleg. Pan mae'r winwns yn dechrau troi'n euraidd, ychwanegu darnau o goesau'r sgwid a'u coginio'n araf yn yr olew, nes i'r saws ddechrau tewhau.
Llenwi corff y sgwid gyda'r gymysgedd yma, a'u cau gyda deintbigau. Eu ffrio mewn mwy o olew nes eu bod yn dechrau brownio.
Ffrio'r winwnsyn arall gyda mwy o arlleg. Rhoi'r sachau inc mewn rhidyll a thywallt yr inc dros ben y winwns a'r garlleg a choginio'r cyfan yn ysgafn. Ychwanegu piwrî tomato a choginio'r cyfan am ychydig eto. Ychwanegu'r sgwid a'u coginio ar wres cymhedrol am tua 15 munud.
Gweini'n syth gyda phersli ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley