DULL
Rhoi'r penfras mewn dwr am tua 48 awr cyn rensio o dan dap dwr oer.
Mewn padell, ffrio'r penfras am funud bob ochor mewn olew poeth, cyn eu tynnu allan a'u rhoi ar bapur cegin i gael gwared o'r olew.
Torri'r wyau i mewn i fowlen a'u curo. Ychwanegu'r penfras at yr wyau ac yna rhoi'r pysgod a'r wyau gyda'i gilydd yn ôl yn y badell ffrio ar wres isel i goginio. Troi'r omled ar ei hanner a choginio am 2 munud, cyn troi a choginio ar yr ochr arall am 2 funud ychwanegol.
Gweini ar blât gyda phersli ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley