DULL
Cynhesu'r ffwrn i dymheredd o 375 F. Iro 4 darn o ffoil ag olew. Cymysgu'r pupur, winwns, garlleg a basil â'i gilydd. Rhoi ffiled o benfras yng nghanol pob darn o ffoil a rhoi'r gymysgedd pupur a winwns ar eu pen.
Arllwys ychydig o sudd lemwn, olew a halen Môn dros y pysgod. Cau'r ffoil i greu parseli a'u gosod ar dun pobi yn y ffwrn am tua 20 munud, nes bod y pysgod yn torri'n hawdd.
Tynnu'r pysgod allan o'r ffoil gyda'r gymysgedd pupur a winwns ar eu pen, a'r sudd a throsglwyddo'r cyfan i blât.
Gweini gyda darnau o lemwn.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley