DULL
Toddi ychydig o'r menyn mewn padell ffrio. Ychwanegu'r winwns gyda phinsied o halen a phupur a'i ffrio am tua 2 3 munud. Rhoi'r winwns mewn dysgl sy'n addas i'r popty neu'r hob.
Ffrio'r madarch yn yr un badell, gan ddefnyddio mwy o fenyn fel bo'r angen. Ychwanegu halen a phupur a'u ffrio tan yn euraidd. Trosglwyddo'r madarch o'r badell i'r un ddysgl a'r winwns.
Ychwanegu mwy o'r menyn a ffrio'r cig eidion gyda halen a phupur tan iddo frownio ar y ddwy ochr. Trosglwyddo i'r ddisgl
Arllwys y cwrw i mewn i'r badell ffrio er mwyn amsugno holl sudd y cig a blas y madarch a'r winwns.
Arllwys y cwrw dros ben holl gynhwysion y ddysgl a'i osod yn y popty am 1¾ awr neu 1½ ar yr hob.
Yn y cyfamser, gwnewch y toes.
Defnyddio' ¾ y crwst i orchuddio gwaelod ac ochrau pot pei. Arllwys cynhwysion y ddysgl i'r pot pei a defnyddio gweddill y crwst i orchuddio'r top. Tacluso'r crwst o gwmpas y pot a thorri twll bach yng nghanol y pei.
Iro'r crwst gyda wy wedi'i guro, a'i goginio am tua hanner awr yn y popty.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley