dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
FFILED O GIG EIDION GYDA CHAWS WEDI FYGU

FFILED O GIG EIDION GYDA CHAWS WEDI FYGU

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

Ffiled o gig eidion, digon ar gyfer torri 4 stecen trwchus
25g o fenyn
75g o gaws Deri Môn, wedi'i gratio
½ llwy de o fwstard poeth
1 llwy de o bersli ffres, wedi'i torri'n fân
1 wy
1 llwy de o saws Worcestershire
½ gwydraid o stowt
Pinsied o taragon ffres, wedi torri'n fân
Halen a phupur

Y Saws
¼ winwnsyn, wedi torri'n fân
6 madarch, wedi sleisio
1 llwy de o fwstard cyflawn
50ml o win Gwyn
50ml o stôc Cyw Iâr
25g o fenyn
DULL
Rhoi ychydig o'r menyn a'r ben y darnau o gig a'u gosod mewn padell ffrio twym, a'u ffrio ar y ddwy ochr am ychydig o funudau (neu yn ôl eich dewis).

Yn y cyfamser, cymysgu'r caws wedi'i fygu gyda'r mwstard, persli a'r wy. Ychwanegu'r saws Worcestershire, stowt, halen a phupur.

Rhoi'r gymysgedd ar ben y stêcs a'u gosod o dan y gril nes i'r caws feddalu.

I'w paratoi yn ffreipan y cig eidion:-
Ffrio'r winwnsyn nes yn feddal. Ychwanegu'r madarch a'u brownio'n ysgafn. Ychwanegu'r mwstard i'r badell. Ychwanegu'r gwin, berwi ac yna lleihau. Codi'r gwres, ychwanegu'r stôc a berwi, yna lleihau. Toddi'r menyn i'r saws a churo'n dda.

I weini: Gosod y stêc yng nghanol y plât, ac yna arllwys y saws o gwmpas y stêc


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY