DULL
Gosod dwy dafell o gig moch ar fwrdd torri a gosod un darn o bîn-afal ar ben y cig moch. Ychwanegu ychydig o'r coriander cyn gosod darn o'r maelgi ynghanol y cyfan. Plygu'r cig moch o amgylch y pysgod i greu parsel taclus. Defnyddio ffyn coctel i gadw'r cyfan gyda'i gilydd.
Twymo'r olew mewn tun rhostio a ffrio'r parseli o bysgod ar bob ochr yn ysgafn, cyn eu rhostio mewn ffwrn 180°C am 10 munud.
Mewn sosban o ddwr berw hallt, coginio'r asbaragws nes yn dyner am 7 i 10 munud, yn ôl maint yr asbaragws.
Y Beurre Blanc
Rhoi'r sialots, finegr, gwin a'r dwr mewn sosban fach a berwi er mwyn lleihau'r hylif.
Arllwys yr hufen i'r sosban a mud-ferwi nes tewhau ychydig. Tynnu'r sosban oddi ar y gwres a churo'r menyn i mewn fesul ciwb i greu saws llyfn.
I'w weini, rhoi'r parsel ynghanol y plât a'r asbaragws wrth ei ochr. Arllwys y saws dros y cyfan.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley