DULL
Agor y ffiled a'i fflatio rhwng dau ddarn o gling film.
Y llenwad:
Gratio'r caws a'r celeriac. Toddi'r menyn mewn padell ffrio ac ychwanegu'r pupur du cyn ffrio'r celeriac yn y menyn. Cymysgu'r caws a celeriac gyda'i gilydd. Ychwanegu'r persli a teim a chymysgu'n dda.
Rhoi'r llenwad yng nghanol y ffiled cyn ei lapio yn yr ham a rowlio'r cyfan yn dynn yn y cling film i wneud parsel.
Stemio'r parsel dros badell o ddwr berwedig i goginio. Gadael i oeri am ychydig cyn tynnu'r cling film i ffwrdd (neu bydd y caws yn rhedeg allan).
Ffrio'r parsel mewn padell ffrio i frownio'r tu allan cyn rhoi ar blât.
Y saws:
Yn yr un badell ffrio a ddefnyddiwyd i ffrio'r porc, rhoi'r afalau i mewn a'u ffrio. Toddi'r siwgr mân yn y dwr ac ychwanegu at yr afalau ac yna ychwanegu'r nytmeg at yr afalau. Ychwanegu'r calvados a gadael y cyfan i ffrwtian am ryw 10 munud.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley