dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYRI CYW IAR (Geraint Jones)

CYRI CYW IAR (Geraint Jones)

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 brest o gyw iâr, wedi torri'n ddarnau
Olew yr olewydd neu olew cnau daear (groundnut)
1 llwy bwdin o fêl
1 winwnsyn, wedi torri'n fân
1 ewin o arlleg, wedi torri'n fân
1-2 llwy fwrdd o bâst cyri cyw iâr korma
1 tun o domatos
2 dun o laeth cnau coco
1 banana, wedi torri'n ddarnau
6 tomato bach, wedi eu haneru
Coriander ffres, wedi torri'n fras
250g o reis basmati

I weini:
Bara naan
Poppadoms
Chytni mango
DULL
Cynhesu'r olew mewn padell neu sosban a ffrio'r cyw iâr â'r mêl.

Lleihau'r gwres rhyw ychydig ac ychwanegu'r winwns a'r garlleg i'r badell.

Cynyddu'r gwres yn sylweddol ac ychwanegu 1 neu 2 llwy fwrdd o'r pâst cyri (dim gormod), a'i gymysgu'n dda.

Coginio'r cyw iâr nes iddo droi'n euraidd mewn lliw cyn ychwanegu tun tomatos.

Lleihau y gwres ar ôl rhyw funud ac ychwanegu 1 tun o laeth cnau coco. Tip - cofio ysgwyd y tun yn dda ac os oes rhaid, arllwys y llaeth i fowlen yn gyntaf er mwyn ei droi'n hylif i gyd gan ei fod yn gallu mynd yn un lwmpyn yn y tun.

Lleihau'r gwres eto a mud-ferwi'r cyfan gyda chaead ar y sosban am ryw hanner awr i dri chwarter a'i droi'n achlysurol.

Ar ôl rhyw chwarter awr, ychwanegu'r banana a'r tomatos bach (a rhywfaint o hufen os dymunir).

Cynyddu'r gwres ychydig a chaniatáu i'r gymysgedd dewhau ychydig heb gaead ar y sosban, yna ychwanegu'r coriander ffres.

Rhoi'r reis mewn sosban gyda'r ail dun o laeth cnau coco (gan gofio'r tip uchod). Ychwanegu gwerth 2 dun llawn o ddwr tap at y reis. Ei ferwi ac yna ei fud-ferwi am ryw chwarter awr (neu fel bo'r angen).

I'w weini:
Gweini gyda bara Naan a phopadoms plaen gyda chytni mango.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY