dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
WAFFLE TREGROES, BANANA A SAWS WISGI PENDERYN

WAFFLE TREGROES, BANANA A SAWS WISGI PENDERYN

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 waffl tregroes
2 llwy fwrdd o siwgr brown meddal
25g o fenyn
2 banana, wedi'i dorri'n ddarnau ½ modfedd
1 llwy fwrdd o wisgi Cymreig
1 carton bach o hufen wedi'i guro
1 sprig o fintys
1 llwy fwrdd siwgr eisin, wedi'i rhidlo
DULL
Cynhesu cyllell mewn dwr twym a thorri'r waffl mewn hanner i greu 2 ddisg crwn.

Toddi'r siwgr mewn ffreipan gyda'r menyn.

Coginio'r bananas yn y menyn a'r siwgr.

Gosod un ddisg ar ganol y plât (ochr y toffi yn wynebu i fyny) a rhannu y bananas rhwng y ddau blât. Gosod hanner arall y ddisg ar ben y bananas gyda'r toffi yn wynebu i lawr.

Gweini gyda llwyed dda o'r hufen, sprig o fintys a gwasgaru y siwgr eisin yn ysgafn dros y plât.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY