dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CRANC COGNAC TWYM

CRANC COGNAC TWYM

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 1

CYNHWYSION

1½ lbs o granc, yn gyfan a wedi'i lanhau'n dda
¼ llond llaw o friwsion bara

Y Saws:
1 cwpan o saws tomato
½ cwpan o cognac
Pinsied o taragon
½ winwnsyn, wedi torri'n fân
3 llwy fwrdd o fenyn
¼ cwpan o olew yr olewydd
DULL
Berwi dwr gydag ychydig o halen mewn sosban.

Gollwng y cranc i'r dwr a'i adael i ffrwtian ar bwynt berwi am tua 20 munud.

Tynnu'r cranc o'r dwr a'i adael i oeri.

Tynnu y cig o'r gragen a'r coesau a'i roi ar blât.

Sicrhau bod y gragen yn gyfan oherwydd bydd ei angen ar gyfer gweini'r cranc. Golchi'r gragen yn dda a'i roi i un ochr.

Rhoi olew olewydd a menyn mewn padell ffrio a ffrio'r winwns yn ysgafn.

Wrth i'r winwns ddechrau brownio, ychwanegu cig y cranc a ffrio'r cyfan am funud.

Ychwanegu'r cognac a'i fflamio.

Ychwangu'r saws tomato a'r taragon a choginio'r cyfan am 3 munud.

Llenwi cragen y cranc gyda'r llenwad a thaenu briwsion bara dros y cyfan. Rhoi ar dun rhostio a'i roi dan gril poeth am ychydig funudau.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY