dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
MACRELL A STWFFIN LEIM A SINSIR

MACRELL A STWFFIN LEIM A SINSIR

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 o fecryll mawr
50g o friwsion bara gwyn
15g o sinsir wedi preserfio
2 llwy fwrdd o bersli ffres
2 leim
1 llwy fwrdd o olew yr olewydd
DULL
Cymysgu y briwsion bara, sinsir, persli, sudd a croen un leim â'i gilydd i greu y llenwad.

Gwahanu'r gymysgedd i 4 rhan a'i roi yn y pysgodyn.

Gwneud 5 toriad ar draws naill ochr y pysgod a'u brwsio ag olew.

Coginio ar ridyll neu gril barbeciw am 5 munud bob ochr nes bod y cig wedi'i goginio gan ddisgyn oddi ar yr esgyrn yn hawdd.

I Weini:

Gweini gyda darnau o'r ail leim, salad a thatws newydd.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY