dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CACENNAU MECRELL

CACENNAU MECRELL

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 facrell, 600g heb y pen a wedi eu glanhau
600g o datws (Maris Piper neu King Edward)
6 shibwnsyn, wedi eu torri'n fân
2 llwy fwrdd o gaprys, wedi eu torri'n fân
2 llwy fwrdd o saws horseradish
2 llwy fwrdd o bersli, wedi torri'n fân
2 llwy fwrdd o flawd, wedi sesno â halen a phupur
1 wy, wedi ei guro
100g o friwsion bara gwyn
Olew yr olewydd, ar gyfer ffrio
DULL
Gwneud 3 i 4 toriad ar hyd corff y pysgodyn. Gosod o dan y gril am rhyw 5 munud ar bob ochr.

Yn y cyfamser, rhoi y tatws mewn dwr berwedig gyda halen. Draenio a'u trosglwyddo i fowlen mawr a'u potsio. Ychwanegu y shibwns, caprys, persli a saws horseradish i'r tatws stwnsh. Cymysgu'n dda.

Tynnu yr esgyrn o'r mecryll yn ofalus, a thorri'r pysgodyn yn ddarnau. Cymysgu'r darnau o bysgodyn i'r tatws gan ychwanegu halen a phupur yn ôl eich blas.

Ffurfio siap cylchoedd neu gacennau o'r gymysgedd a'u gorchuddio yn y blawd. Gosod y cacennau yn yr wy ac yna eu gorchuddio'n dda yn y briwsion bara.

Cynhesu yr olew mewn padell a'u ffrio am 3 i 4 munud bob ochr nes eu bod yn grisp ac yn euraidd.

Gweini yn syth.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY