dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
STECEN O GIG OEN A SAWS RHOSMARI

STECEN O GIG OEN A SAWS RHOSMARI

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 stecen cig oen, 150g
1 sprigyn o rhosmari ffres, wedi'i falu
½ ewyn o arlleg, wedi'i falu gyda'r rhosmari
Halen a phupur
1 llwy fwrdd o olew yr olewydd
2 shibwnsyn, wedi eu torri'n fân
75ml o win gwyn
250ml o stoc cig oen
Tatws newydd, wedi berwi a haneru
10g o fenyn
3 sprigyn o fintys ffres (1 wedi'i gadw'n gyfan a 2 wedi'u torri'n fân)
Ffa ffres
Cig moch, wedi eu torri'n lardons
DULL
Rhoi halen a phupur ar y stec a rhwbio'r rhosmari a'r garlleg i mewn i'r cig.

Cynhesu'r olew yn y ffreipan a choginio'r cig oen am 4 munud bob ochr. Gosod y cig ar blât a'u cadw'n gynnes.

Yn yr un badell, ffrio'r shibwns nes yn feddal. Arllwys y gwin i'r ffreipan a'i leihau cyn rhoi'r stoc i mewn a'i fud ferwi.

Yn y cyfamser, cadw'r tatws yn gynnes yn y menyn a darnau cyfan o 1 sprigyn o fintys ffres.

Stemio'r ffa nes yn dyner.

Ffrio'r cig moch mewn ffreipan, nes yn grimp.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY