DULL
Twymo ffreipan ar wres cymhedrol.
Rhwbio halen a phupur ar y naill ochr i'r cig ac yna gwneud yr un peth gyda thipyn o'r menyn. Ffrio'r stecen yn y ffreipan, 2 funud ar bob ochr cyn eu tynnu allan a'u sefyll ar blât.
Ffrio'r shibwns yn y badell stec nes yn feddal cyn ychwanegu'r madarch gwyllt i'r badell a'u ffrio nes yn frown.
Arllwys y Madeira dros y cyfan a'i fflamio cyn arllwys y gwin i mewn a'i leihau. Ychwanegu'r stoc a'i fud ferwi.
Toddi 25g o fenyn mewn ffreipan lan a ffrio'r madarch nes yn frown cyn eu trosglwyddo i blât.
Cynhesu ffreipan gydag olew yr olewydd.
Rhoi halen a phupur ar y pysgod a'u ffrio am 3 munud ar un ochr a 2 ar y llall.
Rhoi 10g o fenyn yn y ffreipan am y funud olaf a'i doddi gyda'r olew trwffl.
Yn olaf, pinsied da o bersli ar y pysgod.
Toddi 25g o fenyn mewn padell arall a ffrio'r bresych nes yn dyner. Rhoi'r hufen i mewn a'i fud ferwi.
I'w weini:
Rhoi y bresych ar y plât, y stec ar ben y bresych, yna'r pysgodyn.
Gosod y madarch ar ben y cyfan a'r saws o amgylch y plât
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley