DULL
Gan ddefnyddio pestl a mortar, malu'r halen, pupur, rhosmari a chroen y lemwn ac yna rhwbio'r gymysgedd dros y cig.
Cynhesu'r olew mewn padell ffrio a choginio'r cig am 4 munud bob ochr ac yna ei roi ar blât.
Y saws:
Ym mhadell ffrio'r cig, ffrio'r winwns a'r garlleg nes yn feddal.
Ychwanegu'r seidr a berwi am 2 funud.
Ychwanegu'r mêl i mewn ar y diwedd.
I weini, gosod y stecen yng nghanol y plât gyda'r saws o amglych y stecen.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley