dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BRITHYLL GLAS / TROUITE AU BLEU

BRITHYLL GLAS / TROUITE AU BLEU

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 brithyll (275g i 300g yr un), tynnu'r perfedd allan a phediwch a'u golchi

Y Courtbouillon:

120ml o finegr gwin gwyn
1 winwnsyn bach, wedi torri'n stribedi
1 morynen, wedi sleisio
1 darn o helogan, wedi sleisio
4 sbrigyn o bersli
6 peppercorn du, wedi eu malu ychydig
3.4ltr o ddwr
6 llwy fwrdd o halen

Y saws Mousseline:

2 llwy fwrdd o ddwr
2 melynwy
225g o fenyn wedi gwahanu
½ lemwn, sudd yn unig
Pinsied o bupur Cayenne
¾ llwy de o halen
DULL
Ar gyfer y rysait yma, mi fyddai'n ddelfrydol i'r brithyll fod yn hollol ffres, hynny yw, newydd eu dal! A mae'n hanfodol cael brithyll sydd wedi eu dal o fewn hanner awr.

Y Courtbouillon:
Rhoi'r cynhwysion i gyd heblaw am y pysgod mewn pot caserôl digon mawr i goginio'r pysgod.

Dod a'r cwbl i'r berw am tua 10 munud.

Ar ol 10 munud, diffodd y gwres a rhoi'r brithyll i mewn yn y stoc a'u gadael yn y stoc am 7 i 8 munud.

Y saws Mousseline:
Rhoi'r dwr a'r melynwy mewn powlen stainless steel neu wydr.

Rhoi'r fowlen i eistedd dros sosban o ddwr sy'n ffrwtian gan gofio i beidio gadael i'r dwr gyffwrdd â gwaelod y fowlen neu mi fydd yr wyau yn coginio'n rhy fuan. Rhaid curo'r gymysgedd yn dda nes iddo dewhau.

Tynnu'r fowlen oddi ar y sosban ac yn ofalus a'n raddol bach ychwanegu'r menyn gan guro'n gyson nes yn drwchus.

I orffen, curo'r sudd lemwn a'r pupur cayenne a'r halen i mewn i'r saws.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY