dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PEI PECAN GYDA SAWS ‘BUTTERSCOTCH A CHWISGI CYMREIG

PEI PECAN GYDA SAWS ‘BUTTERSCOTCH A CHWISGI CYMREIG

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 4

CYNHWYSION

1 pecyn o grwst brau (short crust pastry), rholio'r toes
4 llwy fwrdd o fenyn, wedi ei doddi a'i oeri
½ cwpan o siwgr
3 wy
1 cwpan o surop gwenith gwyn
1 pinsied o halen
3 llwy fwrdd o wisgi Cymreig
1/3 cwpan o ddarnau bychain siocled (chocolate chips)
2 gwpan o gnau pecan

Y saws butterscotch a wisgi Cymreig
3 llwy fwrdd o fenyn heb halen
8 llwy fwrdd o siwgr brown
200ml o hufen wedi'i chwipio
200ml o wisgi Cymreig
1 llwy fwrdd o rin fanila
DULL
Rhoi y toes neu'r crwst mewn tun 9” gyda ffa pobi (‘baking beans') ar eu pen a phobi mewn ffwrn 200ºC nes bod y toes wedi ei goginio ychydig.

Cymysgu y menyn a'r siwgr mewn powlen ac wedyn ychwanegu'r wyau fesul un.

Rhoi y surop, halen a'r wisgi Cymreig i mewn i'r cymysgedd a churo'r cyfan yn dda.

Gwasgaru y darnau siocled ar waelod y pei ac yna gosod y cnau pecan ar eu pen.

Ychwanegu y gymysgedd wyau i'r pei a'i roi nôl yn y ffwrn ar 180ºc am tua 25 munud.

Tra bod y pei'n coginio, bydd angen cadw golwg ar y pei bob 5 munud i osgoi ei or-goginio (dyle'r canol dal fod yn feddal).

Tynnu y pei o'r ffwrn a'i adael i orffwys am tua hanner awr ar rac cacennau.

Y saws:
Toddi y menyn mewn sosban dros wres cymedrol-uchel nes i'r menyn ferwi.

Ychwanegu y siwgr a'i droi am tua 3 munud nes i'r siwgr doddi.

Yn ofalus, ychwanegu yr hufen ac yna, wrth droi'r gwres i lawr, ychwanegu'r wisgi Cmreig a'i droi am tua dwy funud.

Tynnu y sosban oddi ar y gwres ac ychwanegu y rhin fanila.

Gweini gydag ychydig o'r saws ar ben y pei wedi iddo oeri ychydig.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY