dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PENWAIG NEFYN GYDA SAWS POETH A SAWS MELYS A SALSA VERDE

PENWAIG NEFYN GYDA SAWS POETH A SAWS MELYS A SALSA VERDE

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 3-6

CYNHWYSION

6 penwaig, wedi eu ffiledu'n barod

Y marinâd poeth:
1 llwy de o olew yr olewydd
1 winwnsyn bach, wedi torri'n fân
2 i 3 llwy de o sbeisys Cajun
1 llwy fwrdd o win coch neu wyn
1 llwy fwrdd o biwrî tomato

Y marinâd melys
1 lemwn, sudd a'r croen
2 llwy fwrdd o sieri
1 llwy fwrdd o siwgr brown
1 llwy fwrdd o gennin syfi (chives)

Y salsa verde
3 llwy fwrdd o fintys ffres, wedi torri'n fân
3 llwy fwrdd o goriander ffres, wedi torri'n fân
2 llwy fwrdd o gennin syfi, wedi torri'n fân
½ chili coch, heb yr hadau
2 llwy de o olew sesame
2 llwy fwrdd o olew llysiau
1 llwy fwrdd o fêl clir
1 lemwn, sudd yn unig
DULL
Torri'r ffiledau'n ddarnau 2 fodfedd a'u rhoi ar sgiwerau pren, 2 neu 3 i bob sgiwer.

Y marinâd poeth:
Cynhesu'r olew mewn sosban.

Coginio'r winwns nes eu bod yn feddal ac yna ychwanegu'r holl gynhwysion eraill.

Coginio'r cyfan am 5 munud a'u gadael i oeri.

Y marinâd melys:
Rhoi'r croen a'r siwgr mewn pestl a mortar, malu'r cyfan gyda'i gilydd.

Ychwanegu gweddill y cynhwysion a'u malu a'u cymysgu nes creu pâst llyfn.

Rhannu'r sgiwerau rhwng 2 ddysgl ac arllwys y marinâd poeth dros gynhwysion un ddysgl a'r marinâd melys dros y llall au gadael i farinadu am awr.

Y salsa verde:
Malu'r perlysiau'n fân mewn pestl a mortar a chyfuno'r cynhwysion i gyd i greu'r salsa.

Coginio'r penwaig o dan y gril neu ar farbeciw am tua 10 munud cyn eu gweini â'r salsa.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY