dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
RISOTTO O LYSIAU'R HAF

RISOTTO O LYSIAU'R HAF

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

2 sialot wedi eu torri'n fân
500g reis Arborio
100g menyn
1.5 litr o stoc llysiau
100ml o win gwyn (dim rhy sych)
Halen Môn a phupur du
1 courgette heb yr hadau
1 bwnsied o asbaragws, wedi eu glanhau, pennau a'r coesau wedi'u gwahanu a'r coesau wedi eu torri'n fân
1 paced o mange tout, wedi torri'n stribedi tenau
1 lemwn, croen a'r sudd
275 hufen dwbl
100g caws Parmesan wedi gratio
1 bwnsied o bersli ffres wedi torri'n fân
450g pys ffres
DULL
Mewn ffreipan fawr, ffrio'r sialots yn y menyn cyn ychwanegu'r reis a'i gynhesu yn y menyn. Ychwanegu y gwin a'i droi cyn ychwanegu'r stoc a throi'r gwres i fyny yn uchel. Cymysgu'r cyfan yn dda ar ôl ychwanegu halen, pupur a chroen y lemwn (gadael y sudd tan nes ymlaen).

Coginio y reis nes ei fod wedi amsugno'r gwin a'r stoc a dechrau tewhau (peidiwch gor-goginio'r reis).

Ychwanegu y courgettes a choesau'r asbaragws yn unig. Ychwanegu'r hufen, caws a'r mange tout cyn ychwanegu pennau'r asbaragws, pys ffres, sudd y lemwn a'r persli.

Cynhesu y cyfan am tua munud cyn gweini.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY