DULL
Y saws Bechamel
Mewn sosban, cynhesu'r llaeth, gyda'r winwns a'r ddeilen bae. Gadael i sefyll am 15 munud.
Toddi'r menyn a chymysgu'r blawd i greu roux.
Arllwys y llaeth fesul tipyn at y roux gan ei gymysgu'n dda a choginio am 10 munud ar wres isel.
Ychwanegu halen a phupur i'r saws.
Y llysiau
Cynhesu'r olew mewn sosban fawr a ffrio'r winwns a'r garlleg nes eu bod yn feddal.
Ychwanegu gweddill y llysiau a ffrio'r cyfan. Dylai'r llysiau fod yn grisp a heb eu gor-goginio.
Ychwanegu'r piwrî a'r tomatos at y gymysgedd a mud ferwi am ddeg munud.
Y lasagne
Rhoi haenen o lysiau, pasta lasagne, saws bechamel ac ail adrodd y broses nes bod y ddysgl wedi'i llenwi. Gorchuddio top y lasagne gyda chaws Parmesan wedi'i gratio cyn ei roi dan y gril.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley