DULL
Potsio y sgwid mewn pot o ddwr a halen, mudferwi am tua munud neu nes fod y sgwid wedi cyrlio.
Tynnu allan a'u rhoi ar blât.
Ychwanegu y corgimchiaid i'r dwr, mudferwi am tua 2 i 3 munud nes iddynt droi yn binc a'n gadarn.
Draenio'r cyfan yn dda.
Dresin
Curo y sudd leim, saws pysgod Thai, saws chili melys, olew a siwgr gyda'i gilydd, nes i'r siwgr feddalu.
Ychwanegu'r winwns bach, chili coch a'r shibwns i'r cymygedd a throi'n dda.
Gorchuddio'r sgwid a'r corgimychiaid gyda'r dresin.
Ychwanegu'r perlysiau a chymysgu'r cyfan yn ysgafn.
Rhannu'r salad ar blatiau, gwasgaru'r cnau o gwmpas y salad, rhoi'r pysgod ar y top a gweini gyda'r leim ar y top.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley