dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
GOLWYTHION O BORC WEDI EU STWFFIO GYDA SAWS CALVADOS

GOLWYTHION O BORC WEDI EU STWFFIO GYDA SAWS CALVADOS

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 golwythen o borc, 8oz yr un a'r esgyrn wedi tynnu

Y stwffin:
50g o fenyn
1 winwnsyn, torri'n fân
1 clôf o arlleg, torri'n fân
1 afal ‘Cox'', wedi plicio a thorri'n ddarnau bras
1 llwy fwrdd persli ffres
1 llwy fwrdd marjoram ffres
2 gwpan briwsion bara ffres
Pinsied o halen a phupur
25g o syltanas
1 wy, wedi curo
1 llwy fwrdd o olew olewydd

Saws Calvados:
25g o fenyn
1 winwnsyn bach, torri'n fân
50ml Calvados
50ml hufen chwipio
DULL
Torri poced bychan ym mhob un o'r golwythion gyda chyllell siarp.

Y stwffin:
Toddi'r menyn mewn padell.

Ffrio'r winwnsyn, garlleg a'r afal nes bod y cyfan yn feddal.

Ychwanegu'r holl gynhwysion sych eraill a chymysgu'n dda.

Ychwanegu'r wy a joch o'r calvados. Cymysgu'n dda.

Llenwi'r gwagle yn y golwythion gyda'r llenwad a'u cau â ffyn coctel.

Halen a phupur ar y cig. Cynhesu'r olew mewn padell a choginio'r cig am 3 munud bob ochr i'w brownio.

Gorffen y coginio yn y popty ar wres 180°c am 15 munud. Tynnu o'r ffwrn, rhoi ar blât a'u cadw'n cynnes.

Y saws Calvados:
Ffrio'r winwns yn yr un badell nes eu bod yn feddal (ychwanegu mwy o fenyn os oes angen).

Tywallt y calvados i'r badell a fflamio.

Ychwanegu'r hufen a'i ddod i ferw yn gyflym i dewhau'r saws.

Tywallt y saws dros y golwythion cyn gweini.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY