dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
COURGETTE CRWN WEDI'I STWFFIO

COURGETTE CRWN WEDI'I STWFFIO

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I :

CYNHWYSION

4 courgette bach crwn, torri'r topiau a'u cadw, tynnu'r canol allan â llwy a'u cadw
Olew olewydd
50g o fenyn
Reis Arborio, wedi coginio am 7 munud a gadael i sefyll
2 winwns bach, torri'n fân
1 clôf o arlleg, torri'n fân
75ml o win gwyn
75ml o stoc llysiau
50g o gaws Parmesan
75ml o hufen chwipio
1 llwy fwrdd basil ffres, torri'n fân
1 llwy fwrdd mintys ffres, torri'n fân
1 llwy fwrdd persli ffres, torri'n fân
DULL
Torri topiau'r courgettes a thorri ychydig bach o'u gwaelodion fel eu bod yn gallu sefyll.

Gyda llwy de, tynnu'r canol allan o bob courgette, torri i giwbiau bach.

Rhwbio ychydig o olew olewydd tu fewn i'r courgette a'u rhostio yn y ffwrn am 15 munud ar wres o 150ºC.

Toddi'r menyn mewn padell ffrio a choginio'r winwns bach, garlleg a chanol y courgette nes eu bod yn feddal.

Ychwanegu'r reis a choginio am funud.

Tywallt y gwin i fewn fesul tipyn.

Tywallt y stoc i fewn fesul tipyn.

Pan fydd y reis bron a gorffen coginio, tywallt yr hufen i fewn yna'r perlysiau.

Troi'r gwres i ffwrdd a gweini'r risotto yng nghragen y courgette cynnes.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY