dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CACEN COURGETTE A SIOCLED

CACEN COURGETTE A SIOCLED

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I :

CYNHWYSION

170g o fenyn
400g o siwgr
3 wy
285g courgette
2 lwy de o rin fanila (vanilla essence)
335g o flawd plaen
75g o bowdr cocoa
2½ llwy de o bowdr codi
1½ llwy de o bowdr soda
1 llwy de o halen
1 llwy de o sinamon
4 fl oz o laeth
170g o gnau Ffrengig (walnuts)
DULL
Cynhesu'r popty i wres o 180ºC/350ºF.

Curo'r menyn a'r siwgr gyda'i gilydd.

Ychwanegu'r wyau un ar y tro a'u curo.

Cymysgu'r courgettes â'r rhin fanila.

Hidlo'r blawd, cocoa, powdr codi, soda pobi, halen a'r sinamon gyda'i gilydd.

Cymysgu'r cyfan i mewn i'r gymysgedd am yn ail gyda ychydig o llaeth.

Yn olaf cymysgu'r cnau i'r gymysgedd.

Rhoi'r cyfan mewn tun cacen a choginio am 1awr i 1 ¼. Gadael y gacen i sefyll am chwarter awr cyn tynnu o'r tun.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY