DULL
Y gwaelod:
Toddi y menyn mewn sosban, ychwanegu'r wisgi a'r bisgedi.
Cymysgu'r cyfan yn dda a'i wasgu i dun cacen â gwaelod rhydd.
Oeri am tua hanner awr mewn oergell.
Y llenwad:
Curo'r caws hufen a'r siwgr gyda'i gilydd.
Chwipio'r hufen a'r wisgi nes ei fod yn bigau meddal yna ei ychwanegu i'r gymysgedd hufen. Cymysgu'n dda.
Y haenen uchaf:
Mwydo'r mafon yn y mêl a'r wisgi am tua hanner awr.
Hidlo'r mafon a chadw 4 owns hylifol o'r sudd, efallai bydd angen ychwanegu mwy o wisgi i gael 4 owns hylifol.
Cymysgu'r arorwt mewn 2 owns hylifol o'r sudd i greu past.
Cynhesu'r siwgr gyda gweddill y sudd nes ei fod bron a berwi yna cymysgu'r past arorwt. Cymysgu'r cyfan nes ei fod yn tewhau a'n sgleinio.
Ychwanegu'r mafon i'r gymysgedd a gadael y cyfan i oeri.
Taenu'r gymysgedd mafon dros y llenwad.
Chwipio'r hufen gyda 1 llwy fwrdd o'r wisgi nes ei fod yn bigau meddal ac addurno'r gacen gaws.
Taenu 1 llwy fwrdd o wisgi dros ben y gacen cyn gweini.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley