DULL
Berwch dato Sir Benfro a malwch gyda'ch dwylo unwaith eu bod wedi oeri. Mewn ffreipan, cynheswch y menyn a meddalwch y winwns a'r garlleg. Ychwanegwch yr Hufen Dwbl a chynheswch hwy ychydig. Ychwanegwch y tatws i'r hufen a chynheswch trwyddynt. Mewn ffreipan arall, ffriwch y genhinen mewn menyn ac ychydig o bupur du i flasu. I orffen y pryd, taenwch y gymysgedd winwns, tato a hufen ar waelod bowlen sy'n addas ar gyfer y ffwrn am yn ail gyda'r cenin a'r caws. Ail adroddwch y broses nes bod y cynhwysion i gyd wedi eu defnyddio. I orffen - taenwch ychydig o bersli. Pobwch yn y ffwrn am 20 munud ar wres o 180 - 200 °c.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley