DULL
I greu y marinêd, cymysgu’r mêl, saws soi, sinsir, olew, tabasco, chili sych a’r hadau sesame mewn powlen.
Ychwanegu’r cig i’r marinêd a’i orchuddio’n dda.
Yn y cyfamser, cymysgu’r sudd leim a’r saws soi mewn powlen.
Cynhesu wok dros wres uchel, coginio’r porc am 5-8 munud, yna arllwys hanner marinêd y cig i mewn i’r wok.
Troi’r dail sbigoglys, shibwnsen a’r pupur coch yn sudd y leim a’r saws soi a’u gosod ar ganol y plât.
Gosod stribedi o’r cig ar ben y sbigoglys a’i weini gyda chwarteri o leim.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley