DULL
Paratoi’r globau-artisiog trwy dynnu’r dail allanol i gyd a thorri’r gwaelod yn syth ar draws.
Rhoi dwr oer mewn sosban a gwasgu’r sudd y lemwn i’r dwr cyn gosod y ddau hanner yn y dwr hefyd. Berwi’r dwr a’r lemwn cyn ychwanegu’r globau-artisiog a’u berwi am ryw 20 munud nes eu bod yn feddal.
Gosod y ffa mewn sosban wahanol o ddŵr berw ac ychwanegu pinsied o halen. Wedi’r ffa feddalu, eu tynnu oddi ar y gwres, a’u gosod mewn powlen.
Tynnu dail y persli, taragon a’r mintys a’u torri’n fan. Ychwanegu sudd hanner lemwn i’r perlysiau a’i droi’n dda cyn ychwanegu’r caprys a’r finegr Balsamic. Ychwanegu’r olew, mwstard a phinsied o halen a phupur i’r gymysgedd a’i droi’n dda.
Tynnu’r globau-artisiog o’r sosban a’u gosod yn syth mewn powlen lawn o ddŵr ia am ryw 1-2 munud er mwyn iddynt orffen coginio ac i gadw eu lliw.
Tynnu canol blewog y glob-artisiog ac er mwyn gwella’r gweiniad, tocio’r dail sy’n weddill.
Gosod y glob-artisiog ben ei waered ar blât a gorchuddio’r gwaelod gydag olew cyn eu rhoi yn ôl yn fflat ar griddle am rhai eiliadau nes eu bod y gwaelod wedi eu brownio.
I weini, gosod rhai o’r ffa yng nghanol y plât gyda llwyed o’r vinaigrette. Gosod un o’r glôb-artisiog ar ben a mwy o ffa ar ei ben gyda llwyed arall o’r vinaigrette. Yna gosod y glôb-artisiog arall ar ben a gorffen gyda gweddill y ffa. Arllwys y vinaigrette sy’n weddill dros y cyfan cyn gweini gyda darnau tenau o gaws parmesan a phupur du.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley