DULL
Sesno’r wylys gyda’r halen a gadael i sefyll am ychydig. Golchi’r halen a’r dwr chwerw i ffwrdd o’r wylys.
Rhostio’r pupur coch mewn pan ‘griddle’ gydag ychydig o’r olew olewydd am 2 funud.
Dipio’r wylys mewn olew a’i osod ar ‘griddle’ twym a’i farcio gyda llinellau brown ar y ddwy ochr.
Torri sleisen o Mozzarella i mewn i stribedi/bysedd
Gosod sleisen o’r wylys ar hambwrdd popty gyda haenen o’r pesto ac yna stribedi o’r caws.
Ychwanegu pupur du ac yn olaf y pupur coch wedi’i rostio.
Rholio’r wylys yn siâp tiwb a’i ddychwelyd i’r hambwrdd a’i ail-dwymo yn y popty nes bod y caws wedi meddalu.
Gweini gyda saws passata twym neu saws tomato ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley