DULL
I greu’r stoc, rhoi’r esgyrn y cig oen, moronen, winwnsyn a hanner y garlleg mewn sosban a’u gorchuddio a dwr oer. Rhoi caead ar ei ben a dod a’r cyfan i’r berw.
Torri’r cig yn giwbiau ac ychwanegu halen a phupur cyn ffrio nes yn frown yn yr olew.
Trosglwyddo’r cig i sosban fawr neu ddysgl sy’n addas i’r popty.
Yn yr un ffreipan, ffrio’r foronen, winwnsyn, hanner arall y garlleg, tomato, bouquet garni a gwin gwyn am ryw 2 funud.
Trosglwyddo’r cyfan i’r sosban gyda’r cig, gorchuddio’r cyfan gyda’r stoc a’i osod yn y popty am 1 ½ awr ar wres isel o 120°C/Nwy 1.
Hanner ffordd trwy’r coginio, tynnu’r garlleg allan o’r sosban a thaflu i ffwrdd.
Ychwanegu'r moron, tato, shibwns a rwdan bach tua 20 munud cyn diwedd y coginio.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley