DULL
Torri’r corbwmpenni yn eu hanner er mwyn creu 2 diwb. Tynnu cynnwys y tiwbiau allan a’u torri’n fras.
Cynhesu hanner yr olew mewn padell a ffrio’r shibwns a’r garlleg.
Ychwanegu cynnwys y tiwbiau a’i feddalu am tua 7 munud ar wres cymedrol.
Ychwanegu’r ricotta, Parmesan, powdr bouillon, almwn, briwsion bara, perlysiau, halen a phupur.
Sesno’r corbwmpen tu fewn a thu allan gyda halen, pupur ac olew. Gosod y tiwbiau ar i fyny ar fwrdd a gwthio’r llenwad i mewn i bob tiwb.
Cynhesu olew mewn padell a ffrio’r corbwmpenni ar bob ochr nes i’r croen ddechrau brownio, lleihau a meddalu.
Saws tomato:
Cynhesu gweddill yr olew mewn padell a ffrio’r garlleg a’r winwns nes iddynt feddalu. Ychwanegu’r tomatos a’r sudd a’u ffrio am 8 munud.
Pan mae’r saws bron yn barod, ychwanegu’r olifau, halen a phupur cyn hylifo’r cyfan i wneud saws meddal.
Gweini’r corbwmpenni yn sefyll i fyny ar blât ac arllwys y saws tomato o gwmpas. Ychwanegu dail basil ac ychydig o Parmesan ar yr ochr os dymunir.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley