DULL
Rhoi’r tomatos mewn dysgl bobi. Ychwanegu’r garlleg a hanner yr olew. Eu rhostio am 25-30 munud mewn ffwrn weddol boeth (190’C/375F/Nwy 5) nes eu bod yn feddal. Eu hidlo er mwyn cael gwared ar y croen a’r hadau.
Twymo gweddill yr olew mewn pan a choginio’r winwnsyn nes yn feddal. Ychwanegu’r betys a’r stoc a dod â’r cyfan i’r berw. Sesno’n ysgafn gyda halen a phupur du. Mudferwi am ryw 7-10 munud nes bod y betys yn dechrau meddalu.
Ychwanegwch y saws tomato a rhoi’r cawl mewn prosesydd bwyd. Ei flendio nes yn gwbl lyfn.
Ei flasu ac ychwanegu mwy o halen a phupur os oes angen.
I’w weini’n oer, rhoi’r cawl yn yr oergell. Pan fyddwch yn barod i’w weini, ei rannu rhwng chwe phowlen.
Gan ddefnyddio’ch bysedd, rhowch ychydig o friwsion o feta ar ben pob un. Mae ychydig o fetys amrwd wedi’i ratio’n edrych yn dda wedi’i wasgaru ar ben y cawl oer.
Er mwyn gweini’n boeth, ail dwymo’r cawl nes ei fod yn boeth – ond heb ei ferwi. Ei roi mewn powlenni cynnes gan ychwanegu ychydig o friwsion o feta i bob powlen.
Gweini gyda bara ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley