dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CIG CARW, MADARCH GWYLLT A CHNAU CASTAN

CIG CARW, MADARCH GWYLLT A CHNAU CASTAN

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 ffiled o gig carw
100g madarch shiitake
1 shibwnsyn, wedi’i dorri’n fan
25g menyn
Pinsiad halen a phupur

Y saws:
1 llwy fwrdd olew cneuen ddaear
1 bouquet garni
55ml Armagnac
210ml stoc cyw iâr
2 lwy fwrdd jeli cyrens coch
10 pupren du wedi’u malu
40g menyn
100g castanau siwgr
DULL
Tynnu’r croen a’u glanhau’r madarch gyda lliain gwlyb. Torri’r coesau a’u cadw naill ochr ar gyfer y saws.

Toddi’r menyn mewn ffreipan ac ychwanegu’r madarch a’r shibwnsyn a’u ffrio dros wres cymedrol am 2-3 munud. Ychwanegu halen a phupur yn ôl y blas a’u cadw’n gynnes.

Rhoi’r olew mewn ffreipan a selio’r cig dros wres uchel.

Ychwanegu’r bouquet garni. Fflamio’r cyfan gyda’r Armagnac.

Ychwanegu’r stoc a’i adael ar wres isel am tua 20 munud.

Ychwanegu’r jeli, puprennau du a choesau’r madarch at y saws a’i droi nes iddo dewhau. Hidlo’r saws ac ychwanegu’r menyn ychydig ar y tro.

Sesno’r saws os oes angen.

Yn ofalus, ychwanegu’r castanau siwgr a’i gadw’n gynnes.

Cynhesu hanner y menyn mewn ffreipan a ffrio’r cig carw yn gyflym am 2-3 munud bob ochr. Cynyddu’r amser coginio yn ôl eich dewis. Trosglwyddo’r cig i rac weiren i orffwys am 1-2 funud.

Rhoi’r madarch yng nghanol dau blât a gosod y ffiled o gig carw ar ben y madarch. Gosod rhai o’r castanau siwgr ar ben y cig ac yna arllwys y saws cynnes dros y cyfan.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY