dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CELERIAC DAUPHINOISE – rysait Harry Hughes

CELERIAC DAUPHINOISE – rysait Harry Hughes

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 4

CYNHWYSION

2 celeriac
½ sudd lemwn
400ml hufen dwbl
400ml llaeth
Pinsied halen a pupur
Pinsied nytmeg
1 ewin garlleg

Y saws:
6 owns hylif hufen dwbl
4 owns madarch
3 asbaragws
4 owns caws y Fenni
Dyrned bach cennin syfi
8 tomato bach
DULL
Torri'r croen oddi ar y seleriac a’u golchi. Torri’r seleriac yn chwarteri ac yna eu sleisio yn denau. Gosod y seleriac mewn powlen a’u gorchuddio gyda sudd lemwn.

Cynhesu’r hufen a’r llaeth mewn sosban ac ychwanegu’r celeriac

Ychwanegu pupur, nytmeg, halen a garlleg i’r sosban.

Tynnu’r sosban o’r gwres ar ôl i’r seleriac ddechrau meddalu a’u gosod mewn dysgl sy’n addas i’r popty a’i goginio ar wres o 200°C am 45 munud.

Ar ôl iddo oeri ychydig, gosod torrwr crwst crwn yng nghanol y ddysgl a’i rhoi ar blât arall. Dychwelyd y twr bach o seleriac i’r popty a’i ail-dwymo.

Yn y cyfamser, rhoi’r hufen mewn sosban a’i dwymo.

Ffrio’r madarch hyd nes yn euraidd.

Ychwanegu’r asbaragws i’r madarch a’u coginio tan yn dyner.

Toddi’r caws yn yr hufen ac yna ychwanegu cennin syfi a’r tomatoes a’i droi am ryw funud

I’w weini - Gosod y twr bach o seleriac yng nghanol y plât. Rhoi’r madarch a’r asparagus ar ben y seleriac. Arllwys y saws hufen o gwmpas y twr.

Mae modd ychwanegu stribedi tenau o seleriac wedi’i ffrio’n grisp a’u gosod ar ben y twr.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY