DULL
Y Caramel - rhoi 4 llwy fwrdd o’r siwgr i sosban fach yna’i gynhesu’n araf ar wres cymedrol gan droi’r sosban o gwmpas rhyw fymryn. Parhau i’w gynhesu hyd nes ei fod yn troi’n lliw euraidd.
Yna, ychwanegu’r saws pysgod gan fod yn ofalus gan y bydd y gymysgedd yn tasgu - cymysgu’r cyfan a’i adael i ffrwtian am 2-3 munud.
Cymysgu’r shibwns i’r gymysgedd, yna’r sinsir, y lemon welltyn, halen a phupur a’i adael i oeri’n gyfan gwbl
Rhoi’r porc yn y caramel a dod a’r cyfan i’r berw, yna troi’r gwres i lawr a stiwio’r cyfan am 40 munud.
Ychwanegu’r corgimychiaid i’r gymysgedd yn y chwarter awr olaf a’u cymysgu’n dda yn y caramel
Cofio cadw llygaid ar y gymysgedd i osgoi ei losgi. Ychwanegu ½ llwy fwrdd o ddŵr i’r gymysgedd os yw’n dechrau edrych yn rhy ‘sticky’ a sych.
Yn y cyfamser, berwi’r llysiau tan yn dyner a’u gosod mewn powlen
Rhoi’r siwgr sy’n weddill ( 1 llwy fwrdd) a’r finegr reis a’r dwr mewn sosban a’i ddod i’r berw yna ei arllwys dros y llysiau a’i adael i oeri.
I’w weini – gyda reis neu nwdls a’r llysiau gwyrdd.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley