DULL
Berwi’r tato yn eu croen am 20-25 munud a’u gadael i oeri am ychydig. Tynnu’r croen, eu gratio a’u gosod mewn powlen.
Cynhesu’r olew mewn ffreipan, ychwanegu’r winwnsyn a’r madarch a’u ffrio am 7-8 munud nes iddynt feddalu ac yn frown olau.
Ychwanegu’r dail saets i’r ffreipan.
Tynnu’r ffreipan o’r gwres a’i droi’n dda cyn ychwanegu’r gymysgedd i’r tato.
Ychwanegu halen a phupur.
Y Rhosti:
Cynhesu hanner yr olew mewn ffreipan, ychwanegu hanner y gymysgedd o gwmpas y ffreipan.
Gwasgaru’r caws dros y tato yn y ffreipan a gosod gweddill y tato dros y cyfan er mwyn selio’r caws.
Ffrio’r rosti dros wres cymedrol am 8 munud nes i waelod y rhosti frownio.
Gosod plât mawr ar ben y ffreipan a’i droi ben i waered.
Rhoi’r ffreipan yn ôl ar y gwres, ychwanegu gweddill yr olew yna sleidio’r rosti yn ôl i’r ffreipan a’i goginio am 8 munud arall.
I’w weini – torri’r rosti mewn i ddarnau triongl a’i weini gyda llysiau gwyrdd o’ch dewis neu salad mawr gwyrdd.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley