DULL
I wneud y cytew, rhoi’r blawd, wy, llaeth coconyt, saws pysgod ac ychydig o halen mewn prosesydd bwyd a’i gymysgu, neu ei guro mewn powlen gyda chwisg.
Cynhesu’r olew ar gyfer ffrio.
Rhoi ychydig o flawd plaen ar blât a gorchuddio’r pysgod, yna ei orchuddio yn y cytew a’u ffrio mewn olew poeth.
Troi’r pysgod unwaith yn ystod y ffrio a’u ffrio hyd nes eu bod yn troi’n lliw euraidd.
Gwneud hyn fesul dau neu dri darn fel nad ydynt yn glynu wrth ei gilydd. Unwaith mae’r pysgod yn barod eu sychu ar bapur sugno.
I wneud y saws, rhoi 2 o’r winwns a gweddill y cynhwysion i sosban a’i fud ferwi’n gyflym am oddeutu 5 munud.
Rhoi’r pysgod mewn powlen a thywallt y saws dros y cyfan.
Gweini’r pryd gyda’r dail coriander, y chilli a’r winwns bach.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley