DULL
Crwst Melys:
Cymysgu’r menyn a’r siwgr hyd nes iddo fod yn llyfn ac yn ysgafn. Ychwanegu’r wy, blawd a’r halen i’r gymysgedd a’i droi’n dda i greu toes. Rhoi yn yr oergell am awr.
Leinio tun tarten 3mm o ddyfnder gyda’r crwst melys. Leinio’r crwst gyda 3 haenen o ‘clingfilm’ a’i lenwi â ffa pobi. Gosod yn ôl yn yr oergell am awr arall.
Cynhesu’r ffwrn 180ºC/350ºF/Nwy 4 a gosod y crwst a’r ffa pobi yn y ffwrn am 10 munud.
Tynnu’r crwst o’r ffwrn a gwaredu’r ffa pobi yna gosod y crwst yn unig yn ôl yn y ffwrn hyd nes iddo droi’n lliw euraidd (rhyw 5-8 munud)
Frangipan:
Cymysgu’r menyn a’r siwgr hyd nes iddo fod yn llyfn ac yn ysgafn. Ychwanegu’r wyau a’i gymysgu’n dda cyn ychwanegu’r blawd a’r almon.
Gorchuddio gwaelod y crwst gyda’r jam ac yna haen drwchus o’r frangipan ar ben y jam.
Torri’r ffigys mewn darnau (6-8 dibynnu ar eu maint) a’u gosod ar ben y frangipan.
Cymysgu’r sinamon a’r siwgr gyda’i gilydd ac ysgeintio dros y ffigys cyn ei osod yn y ffwrn am ryw 40 munud ar wres o 170ºC/340ºF/Nwy 3.
Sglein:
Cynhesu’r jam mewn sosban, ychwanegu ychydig o ddŵr os oes angen teneuo’r jam. Gan ddefnyddio brwsh, gorchuddio’r darten gyda’r jam.
Crème Anglaise:
Rhoi’r llaeth, hufen a’r goden fanila mewn sosban a dod a’r cyfan i’’r berw.
Chwisgo’r melynwy a’r siwgr gyda’i gilydd.
Tynnu’r goden fanila o’r sosban ac arllwys hanner y gymysgedd ar ben yr wyau a’i droi’n dda cyn arllwys y cyfan yn ôl i’r sosban at weddill y llaeth a’r hufen. Troi’r gymysgedd yn gyson hyd nes iddo dewhau.
Hidlo’r Crème Anglaise i mewn i bowlen sydd yn gorwedd ar wely o iâ (fydd hyn yn atal i’r anglaise goginio ymhellach)
I’w weini, rhannu’r darten mewn i 8-10 darn a’i weini gyda crème anglaise ar yr ochr. Mae’r darten ar ei orau yn gynnes ond mae modd cadw'r darten am rhai diwrnodau a’i weini’n oer.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley