dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL PANNAS GYDA PESTO CNAU FFRENGIG

CAWL PANNAS GYDA PESTO CNAU FFRENGIG

CATEGORI : CAWL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

Y cawl:
500 g moron - gwaredu’r croen a’u torri’n fras
300 g pannas - gwaredu’r croen a’u torri’n fras
60 ml olew olewydd
2 llwy de halen helogan
1 mawr winwns - wedi ei dorri
1 coes helogan - wedi ei dorri
2 tatws canolig - wedi eu crafu a’u torri
1 litr stoc cyw iâr
285 ml hufen sengl

Pesto cneuen Ffrengig:
1 cwpan cnau Ffrengig di halen
1 gewin garlleg - wedi ei falu
½ dyrnaid dail persli - wedi ei falu
1 llwy fwrdd sudd lemwn
½ cwpan caws Parmesan - wedi ei gratio
Pinsiad halen a phupur
DULL
Y cawl:

Cynhesu’r ffwrn i 200ºC/400ºF/Nwy 6.

Rhoi’r moron, pannas ar halen helogan mewn tun rhostio mawr. Gorchuddio’r llysiau gyda hanner yr olew a’u rhostio am 35-40 munud hyd nes yn dyner.

Cynhesu gweddill yr olew mewn sosban dros wres cymedrol. Ychwanegu’r winwnsyn a’r helogan - coginio am 5 munud hyd nes eu bod yn feddal.

Ychwanegu’r stoc a dod a’r cyfan i’r berw.

Ychwanegu’r tatws a’u berwi am 5 munud arall. Yna mud ferwi’r cyfan am 10 munud hyd nes bod y tatws yn feddal.

Ychwanegu’r llysiau wedi eu rhostio a’i gymysgu’n dda.

Tynnu oddi ar y gwres a’i roi mewn prosesydd bwyd a’i falu’n fan ac yn llyfn.

Rhoi’r gymysgedd yn ôl yn y sosban, ychwanegu’r hufen i’r cawl a’i gynhesu ar wres isel.

Y Pesto:

Rhoi’r cynhwysion i gyd mewn prosesydd bwyd a’i gymysgu hyd nes yn bast. Ychwanegu pupur a halen.

I’w weini - gyda llwyed o’r pesto yng nghanol y cawl.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY