dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TAGLIATELLE FFRES GYDA SAWS HAM PARMA

TAGLIATELLE FFRES GYDA SAWS HAM PARMA

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

200 g blawd plaen - wedi ei hidlo
2 wyau
25 g menyn
1 winwnsyn - wedi ei dorri’n giwbiau bach
50 g ham Parma - wedi ei dorri’n giwbiau
Hanner sosban dwr
Pinsiad halen
Parmesan - wedi gration i weini
DULL
Rhoi’r blawd mewn powlen a gwneud twll yn ei ganol. Torri’r wyau i mewn i’r twll.

Gyda fforc, cymysgu’r blawd a’r wyau hyd nes bod y cyfan yn dod at ei gilydd. Yna gyda llaw tylino’r toes am oddeutu 10 munud. Ni ddylai’r toes fod yn rhy feddal na’n rhy galed.

Rhoi’r toes mewn clingfilm a’i roi yn yr oergell i orffwys am ¼ awr.

Bwydo’r toes drwy’r peiriant pasta sawl gwaith i greu stribedi o dagliatelle.

Yn y cyfamser, toddi’r menyn mewn padell ffrio. Ychwanegu’r winwnsyn a’i ffrio hyd nes yn feddal. Ychwanegu’r ham parma i’r badell a’i ffrio am oddeutu 10 munud.

Berwi’r dŵr mewn sosban gyda’r halen. Gollwng y tagliatelle yn ofalus i’r dŵr berw ac aros hyd nes ei fod yn codi i’r wyneb - mewn tua 2-3 munud. Dyle’r pasta fod yn ‘al dente’.

Unwaith mae’r pasta’n barod - gwaredu’r dŵr a rhoi’r pasta mewn powlen.

I’w weini - llwyo’r gymysgedd ham parma a’r winwns dros y pasta a llond dyrnaid o gawl parmesan wedi gratio.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY